Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 1 Rhagfyr 2021

Amser y cyfarfod: 13.30
 


37(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

I’w ateb gan y Trefnydd:

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fecanweithiau'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Diagnosis a thriniaeth canser

(60 munud)

NDM7842 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu dull gweithredu llwybr canser sengl Llywodraeth Cymru.

2. Yn cydnabod:

a) mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a bod 19,600 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru (2016-2018).

b) bod COVID-19 wedi gwaethygu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru, gyda thua 1,700 yn llai o bobl yn dechrau triniaeth canser rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.

c) bod amseroedd aros canser GIG Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos mai 61.8 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, canran llawer is na'r targed perfformiad llwybr canser tybiedig o 75 y cant.

d) hyd yn oed cyn y pandemig, fod Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu, endosgopi, patholeg, oncoleg nad yw'n lawfeddygol a nyrsys arbenigol.

e) heb fuddsoddiad aml-flwyddyn mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff i lenwi swyddi gwag cyfredol, na fydd gan Gymru'r staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser, ymdopi â'r galw yn y dyfodol, neu wneud cynnydd tuag at uchelgeisiau i roi diagnosis a thrin mwy o ganserau yn gynnar.

f) bod Cynghrair Canser Cymru wedi beirniadu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, am beidio â darparu gweledigaeth glir i gefnogi gwasanaethau canser i adfer o effaith y pandemig a gwella cyfraddau goroesi ymhellach. 

g) mai Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir, y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad.

3. Yn croesawu'r cynlluniau peilot clinig diagnostig cyflym llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bod Rhwydwaith Canser Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd arall i ddatblygu clinigau diagnostig cyflym.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar gyfer canser, gan gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith;

b) mynd i'r afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a diagnostig;

c) ystyried sut y gellid cymhwyso'r argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Mike Richards o wasanaethau diagnostig yn Lloegr yng Nghymru.

Cefnogwyr:
Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Joel James (Canol De Cymru)
Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Peter Fox (Mynwy)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Rhys ab Owen (Canol De Cymru)
Sam Rowlands (Gogledd Cymru)
Siân Gwenllian (Arfon)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Busnesau bach

(30 munud)

NDM7854 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod dydd Sadwrn busnesau bach sy'n hyrwyddo busnesau bach Cymru.

2. Yn credu mai busnesau bach yw calonnau'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a'u bod yn rhan hanfodol o economi Cymru.

3. Yn annog cymunedau i siopa'n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu, gan greu swyddi i bobl leol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau mewn polisi caffael ar draws y sector cyhoeddus, gan eu helpu i wella o bandemig COVID-19.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Siân Gwenllian (Arfon)

Ym mhwynt 4, ar ôl 'cyhoeddus' ychwanegu, 'sy'n seiliedig ar egwyddor lleol yn gyntaf, a fydd yn cynyddu’r lefel caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o'r lefel bresennol o 52 y cant'

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Clefyd niwronau motor

(30 munud)

NDM7855 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym nad oes gwellhad ar ei gyfer a bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o gael diagnosis.

2. Yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor.

3. Yn cydnabod bod mynediad teg a chyflymach at addasiadau tai yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n ddiogel, yn annibynnol ac ag urddas yn eu cartrefi eu hunain.

4. Yn credu bod effaith yr oedi wrth osod addasiadau tai a'r broses profi modd yn cael effaith enfawr ar yr amser sydd ar ôl gan y pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symleiddio mynediad at addasiadau tai drwy greu proses nad yw'n seiliedig ar brawf modd.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Siân Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sefydlu canolfannau arbenigedd yng Nghymru ar gyfer clefydau niwrolegol i wella graddfa ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Plaid Cymru – Dyled aelwydydd

(60 munud)

NDM7856 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Sefydliad Bevan ar effaith COVID-19 ar ddyled aelwydydd.

2. Yn nodi prisiau cynyddol biliau cyfleustodau.

3. Yn nodi datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar gymorth ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf a chostau byw aelwydydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig a chynyddu'r dreth ar danwydd mewn ardaloedd sydd wedi cael buddsoddiad cyhoeddus uwch na chyfartaledd y DU mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) weithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi'u cronni yn ystod y pandemig;

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i sefydlu llinell sylfaen gyson o gymorth gan gyflenwyr ynni ar gyfer cwsmeriaid sydd â dyledion;

c) archwilio'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i atal dyled.

Debt in the pandemic - Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig)

Datganiad Ysgrifenedig: Cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a chostau byw aelwydydd

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 4.

Gwelliant 2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu 5(c) a rhoi yn ei le:

gweithio gyda chyrff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i archwilio mesurau i atal dyled problemus.

Gwelliant 3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:

creu a chyhoeddi cynllun tywydd oer;

ehangu'r cymorth ariannol sydd ar gael i gynorthwyo'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni cynyddol;

buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni cartref, gan flaenoriaethu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon;

cynhyrchu amcangyfrifon rheolaidd o nifer yr aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI10>

<AI11>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM7853 Rhianon Passmore (Islwyn)

Creu Cymru gerddorol ar gyfer yr 21ain ganrif: mynediad, llesiant a chyfle

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2021

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>